Yn ystod y Preswyliad (Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017).
http://www.passaporta.be/en/agenda/poetry-of-loss-barddoniaeth-colled
· ‘Brwsel Wythnos Un’ https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-blog/6969/
· ‘Barddoniaeth a Dogfen: Asio Cymru, Iwerddon a Gwlad Belg’
· ‘Ffiniau, Pŷg a Boezinge’ http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-blog/preswyliad-llenyddol-barddoniaeth-colled-brwsel-3-gan-nerys-williams/
Ers y Preswyliad
1. Darlith yn Hinterland Festival (Kells Co Meath) ar Hedd Wyn a barddoni Rhyfel 23ain Mehefin, 2017.
2. Un o'r cerddi ‘Taxing the Bachelors’ o’r gyfres Calendar on Fire (gyfansoddwyd) ym Mrwsel wedi ei ddarlledu gan RTE Radio– Sunday Miscellany i nodi canmlwyddiant Hedd Wyn a Ledwidge. 30ain Gorffennaf, 2017.
3. Ysgrif/script radio fer ‘Meeting Hedd Wyn in Le Cirio, Rue de la Bourse (A Letter)’ wnes i sgwennu yn Passa Porta, wedi ei ddarlledu ar Sunday Miscellany 30ain Gorffennaf, 2017. http://www.rte.ie/radio1/sunday-miscellany/podcasts/
4. Darn i Barddas aeth allan adeg y canmlwyddiant 31ain Gorffennaf 2017. Deillio o ddarnau wnes i ‘sgwennu ym Mrwsel mewn ymateb i’r Gadair ‘Wag’a grewyd gan myfyrwyr Mechelen a roddwyd fel cadair coffa i Gymru.
5. Cyfraniad i Raglen Radio BBC Cymru ar Yr Arwr wedi ei gynhyrchu gan Irfon Jones. 3ydd Awst 2017 http://www.bbc.co.uk/programmes/b08zfgcb
6. Cyfraniad i Raglen Dylan Iorwerth Radio Cymru O Dan yr Wyneb 1af Awst 2017.
7. Cyfrol newydd o farddoniaeth newydd wedi ei gwblhau Cabaret (New Dublin Press) Medi 2017.
http://www.newdublinpress.org/store/cabaret
Digwyddiadau Coffáol (y Dyfoldol)
1. Cyfle i gymeryd rhan yn Nulyn fel rhan o sioe deithiol y Prifardd Ifor ap Glyn Y Gadair Wag yn The Irish Writers’ Centre, Dulyn (darllen cerddi gwreiddiol) 13eg Medi, 2017.
https://irishwriterscentre.ie/products/y-gadair-wag-the-empty-chair-an-chathaoir-fholamh
2. Cynrychioli safbwynt ‘Gymreig’ yn nathliadau canmlwyddiant cenedlaethol Ledwidge yn Slane (darn am Ledwidge a Hedd Wyn). Francis Ledwidge – Poetry and the First World War 1917-2017. 14eg Hydref , 2017.
Rhaid nodi fod Llenydiaeth Cymru wedi bod yn hynod o gefnogol a phroffesiynol yn ystod y preswyliad, ac heb os wnath y profiad fy helpu i ddatblygu proffil defnyddiol i bontio cysylltiadau celfyddydol rhwng Iwerddon a Chymry. Ag wrth gwrs, dwi yn hapus iawn i meithrin unrhyw beth all fod yn bostitif i Gymru (mewn cyfnod gwleidyddol sydd yn ofnadwy o gythrybus). Mae’n amlwg fod Llenyddiaeth Cymru am barhau meithrin eu cysylltiadu celfyddydol efo sefydliadau yn Iwerddon a datblygu rhydwaith gref. Ym mhob darllediad cyhoeddus, dwi wedi crybwyll pwysigrwydd cefnogaeth y preswyliad a chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn y blynyddoed sydd ohoni, rwy’n sicr fydd Cymru yn edrych fwy at y diaspora gref Gymreig o fewn Ewrop, ac ar draws y byd. Wrth gwrs ‘diw bardd (sydd yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin) ddim yn esgus i fod yn ‘Captain of Industry’. Ond ma gwneud y cysylltiadau celfyddydol yn bwysig i barhad ddelwedd bositif o beth yw Cymreictod (yn fy nhyb i). Dyma’r bursary lenyddol gyntaf o Gymru medrais ymgeisio amdani- gan fod y mwyafrif yn dibynnu ar fod yn drigolyn parhaol. Roeddwn yn ddiolchgar iawn fod y cyfle yno.
I gloi, teimlaf fod Llenyddiaeth Cymru yn awchus i ddatblygu proffil a gwerth celfyddyd Cymru tu hwnt I Gymru.
Dwi’n gobeitho fydd y sylwebaeth yma yn helpu i lenwi ambell i ‘dwll’ ynghlyn ag amcanion rhyngwladol Llenyddiaeth Cymru yn yr adroddiad gwreiddiol.
Gwefan: https://www.ucd.ie/research/people/englishdramafilm/assoc%20professornerysowenwilliams/